Dathliadau’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd 2024!
Ymunwch â ni yn Pontio wrth i ni ddechrau ar ddigwyddiadau bywiog i nodi Blwyddyn y Ddraig! Bydd ein dathliadau’n cynnwys Gala’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, perfformiadau cerddorol byw cyfareddol, arddangosfeydd tai chi gosgeiddig, a gweithdai crefft Tsieineaidd traddodiadol deniadol.
Am fwy o fanylion a chyfarwyddiadau archebu, cyfeiriwch yn garedig at y rhaglen isod.
Gweithdai Caligraffi Tsieineaidd
Lefel 2
10am-12pm a 2-4pm
Sesiynnau galw heibio, am ddim
Dewch i ddysgu am gelf cywrain caligraffi Tsieineaidd.
Breichledau a Chlymau Tsieineaidd
Lefel 2
11am-1pm a 3-4.30pm
Sesiynnau galw heibio, am ddim
Dewch i ddysgu sut mae gwneud breichledi Tsieineaidd.
Cerddoriaeth Tsieineaidd
Bar Ffynnon
11am-11.10pm a 3.50-4pm
Perfformiad byw gan CAI Wenting ar guzheng Tsieineaidd.
Tai Chi
Tu allan
11.30-12pm
Ymunwch gyda ni am berfformiad dyrchafol Tai Chi ar y plaza gan aelodau o Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Gweithdy Torri Papur Tsieineaidd
Lefel 2
12pm-2pm
Am ddim
Dewch i greu dreigiau papur Tsieineaidd anhygoel.
Gweithdy Dawns Tsieineaidd
Bocs Gwyn
2-3pm
Am ddim ond wedi'i docynnu
Dewch ar antur wefreiddiol i archwilio harddwch ac egni dawns Tsieineaidd yn ein gweithdy wedi'i deilwra ar gyfer oedrannau 5 i 17. Ymgollwch ym myd cyfareddol y ffurf gelfyddyd hynafol hon gydag arweiniad gan hyfforddwyr profiadol sy'n sicrhau bod y profiad nid yn unig yn addysgiadol ond hefyd yn hwyliog. Mae ein gweithdy wedi'i gynllunio i gynnwys uchafswm o 30 o gyfranogwyr, gan greu amgylchedd deniadol a rhyngweithiol i bawb. Ymunwch â ni am daith unigryw i galon dawns Tsieineaidd!
Gala Tsieineaidd
Theatr Bryn Terfel
5pm
£3 / am ddim i blant a dros 60 oed
Mae'r Gala Tsieineaidd yn cynnig arddangosfa hudolus o amrywiaeth ddiwylliannol trwy naw perfformiad. O’r Suona Solo gorfoleddus sy’n dathlu Gŵyl y Llusern yn yr eira i’r cyfuniad di-dor o offerynnau cerdd a dawns yn y Ddawns Werin addawol, mae pob act yn addo tapestri cyfoethog o adloniant. Gydag uchafbwyntiau fel "The Butterfly Lovers" ac arddangosfeydd deinamig o Grefft Ymladd, daw'r gala i ben gyda diweddglo mawreddog, "Harmony Across All Regions", gan uno Crefft Ymladd, Dawns ac Offerynnau Cerdd ar gyfer dathliad ysblennydd o undod diwylliannol.
Archebwch ar-lein YMA