Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol - Cyfleoedd a Heriau (In-person)
Mae offer Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol (generative AI) fel ChatGPT yn cael effaith sylweddol ar addysg ac ymchwil. Yn ôl adroddiad JISC diweddar, mae Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol "yn mynd i gael ei ddefnyddio'n gynyddol yn y gweithle". Mae hefyd yn "debygol o fod yn dreiddiol, felly nid yw ei wahardd yn opsiwn".
Mae'r offer hyn yn cyflwyno heriau sylweddol ond hefyd yn agor cyfleoedd newydd cyffrous. Bydd y sgwrs hon yn rhoi cyflwyniad byr i Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, yna’n archwilio’r cyfleoedd a’r heriau hyn sy’n canolbwyntio ar eu defnydd mewn addysg ac ymchwil.