Dewch i Ddarganfod Sefydliad Confucius: Diwrnodau Agored!
Dewch i ddysgu am Ddiwylliant, Celfyddydau a Thraddodiadau Tsieina
Thema’r Wythnos: Clymu Tsieineaidd a Gwneud Gemwaith
Dewch i ddysgu mwy am gelfyddyd hynafol clymau Tsieineaidd, lle mae gan bob cwlwm ei ystyr a'i bwrpas ei hun. Yn y gweithdy hwn, byddwch yn dysgu sut i blethu patrymau cywrain yn emwaith unigryw wedi’u gwneud â llaw, gan gyfuno traddodiad â dulliau dylunio cyfoes i greu darnau sy’n hardd ac yn ystyrlon.
Ymunwch â ni yn Sefydliad Confucius am gyfres gyffrous o ddiwrnodau agored, a gynigir ar sail y cyntaf i'r felin.
P'un a ydych eisiau dysgu am draddodiadau Tsieineaidd, yn awyddus i ddysgu sgiliau newydd, neu eisiau cysylltu â ni, mae gennym rywbeth at ddant pawb.
Beth i'w Ddisgwyl:
- Gweithdai Wythnosol: Celf, Crefft, Cerddoriaeth a Mwy!
- Arddangosiadau Diwylliannol: Thema newydd bob wythnos.
- Te a Bisgedi: Ymlaciwch a mwynhewch wrth ddysgu.
Lleoedd ar gael: Dim ond lle i 20 o fyfyrwyr sydd ym mhob sesiwn. Cofiwch gyrraedd yn gynnar!