Bydd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn cynnal eu digwyddiad EXPO blynyddol. Bydd EXPO2023 yn cael ei gynnal 1yp i 4yp yn Neuadd Prichard Jones, Prif Adeilad y Celfyddydau LL57 2DG, ar yr 15fed o Fawrth 2023.
Yn y digwyddiad bydd myfyrwyr yn cyflwyno eu posteri prosiect trydedd flwyddyn. Gwahoddir i chi gyd fynychu ble bydd prynhawn cyfan o ddigwyddiadau ar y gweill yn cynnwys sgyrsiau gan gwmnïau ac academyddion lleol a'r cyfle i gwrdd â'n myfyrwyr a'n staff.
Yn dilyn y digwyddiad bydd Paul Kinlan (arweinydd tîm Cysylltiadau Datblygwr Chrome yn Google) yn rhoi sgwrs "Anelu at y dyfodol". Mynediad â thocynnau yn unig.