Tom Castle
"Pryd bynnag y gofynnir i mi fod yn Efengylydd ar gyfer y Dioeddefeintiau Bach, dwi'n llawn brwdfrydedd ac yn edrych ymlaen yn fawr at yr achlysur. Mae rôl yr Efengylydd i’r tenor yn unigryw, yn meddu ar nifer o heriau i'r canwr ond hefyd yn caniatáu rôl arbennig iddynt wrth adrodd stori’r Dioddefaint. Rydych chi wir yn teimlo eich bod chi'n siarad â'r gynulleidfa am galon y ddrama. Mae yna nifer o adegau gwirioneddol fendigedig yn y Johannes-Passion, ond, i mi, mae’r darn pan fydd Iesu’n cael ei roi ar brawf a’i gondemnio i farwolaeth yn un o’r gerddoriaeth fwyaf syfrdanol a ysgrifennwyd erioed. Mae'r Corws yn gweithredu fel y dorf, tra bod yr Efengylydd yn gweu'r stori at ei gilydd trwy gyfres o adroddiadau dramatig ac ingol. Bydd unrhyw un sydd wedi bod yn Efengylydd ar gyfer y Johannes-Passion yn dweud yr un peth wrthych chi – mae'n anodd! Mae'r amrediad a ddisgwylir gan y tenor yn enfawr ac mae llawer ohono'n uchel iawn. Mae'n rhaid i chi gyfuno hyn â gwneud i'r cyfan swnio mor hawdd â phosib! Ond mae'r darn hwn o gerddoriaeth yn un o'r goreuon a ysgrifennwyd erioed, a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at ei berfformio yng Nghadeirlan Deiniol Sant."
ack Redman
"Pan gefais wahoddiad i ganu Christus yn y perfformiad hwn o’r Johannes-Passion, roeddwn yn eiddgar iawn i gael perfformio yng Nghadeirlan hardd, hynafol Bangor gyda’i chôr medrus am yr eildro. Bu i'm ymweliad cyntaf gynnwys perfformiad afieithus o anthemau’r Coroni gan Handel a pherfformiad cyntaf o osodiad Offeren Cymraeg newydd gan y cyfansoddwr, Daniel Pett. Roedd y cyflwyniad i ganu yn Gymraeg yn frawychus, yn enwedig i gynulleidfa astud o siaradwyr brodorol! Diolch byth i mi, mae rôl Christus yn gofyn am Almaeneg, iaith sy’n fwy cyfarwydd i mi o ganu yn Saint Martin-in-the-Fields yn Llundain, a yn fy ngwaith fel cyfeilydd Lieder ac Opera. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at berfformio’r rôl emosiynol hon i gynulleidfa Bangor."
Dioddefaint Sant Ioan, J. S. Bach Côr Cadeirlan Deiniol Sant Corws Prifysgol Bangor Ensemble 525
Ar Sul y Blodau, bydd Côr Cadeirlan Deiniol Sant yn perfformio Johannes-Passion J. S. Bach (Dioddefaint Sant Ioan), i gyfeiliant grymoedd offerynnol Ensemble 525, ac wedi’u hategu gan leisiau Corws Prifysgol Bangor.
Tom Castle, Efengylydd
Jack Redman, Christus
Joe Cooper, arweinydd
Tocynnau: £15 (oedolion) / £10 (consesiynau) / £5 (plant)