"Direct action on climate change – getting to the tree roots"
Dr Jenny Wong: Mae’r neges ynghylch yr angen i weithredu ar newid hinsawdd yn neges i bawb – ond mae llawer o’r ddeialog ynghylch beth i’w wneud nesaf yn perthyn i ‘lunwyr polisi’ a chaiff ei chefnogi gan ymchwil sy’n canolbwyntio ar newid ymddygiad fel ymateb i gymhellion y bwriedir iddynt ysgogi gweithredu a ddiffiniwyd ymlaen llaw. Prin yw'r ymchwil sy'n edrych ar beth mae pobl yn ei wneud o’u pen a’u pastwn eu hunain a pham, heb sôn am yr effaith y gallai hynny ei chael ar amcanion newid hinsawdd yn ehangach. Bydd y seminar hon yn archwilio sut mae pobl, fesul un ac ar y cyd, yn ymateb i bwysau deublyg newid yn yr hinsawdd a chostau byw mewn perthynas â’r effaith ar goetiroedd yng Nghymru a pham bod gwerth archwilio hyn mewn rhagor o fanylder.
Siaradwyr: Dr Jenny Wong.
Sgwrs yn Saesneg yn unig.