Mae Prifysgol Bangor yn cynnal Diwrnod Cymunedol ar Sadwrn 14 Hydref 2023. Mae’r digwyddiad yn gyfle i’r Brifysgol agor ei drysau i’r gymuned leol, a bydd yn dangos sut mae Prifysgol Bangor yn cyfrannu at fywyd cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Gogledd Cymru. a thu hwnt trwy ystod o weithgareddau, o ymchwil ac addysgu i gyfleusterau hamdden ac adloniant.
Bydd y Ganolfan DSP yn cynnal gweithgaredd hwyliog i bobl ifanc, lle gallant wneud eu fflachlamp LED mini eu hunain, anfon negeseuon cod morse a dysgu am bŵer anfon gwybodaeth trwy olau.
Byddwch yn gallu dod o hyd i ni ar stondin yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg. Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni!