Diwrnod Cymunedol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru 2024
Oes gennych chi ddiddordeb yn hanes, diwylliannau a thirweddau Cymru? Ydych chi eisiau darganfod mwy am ein hymchwil i archifau Cymru, plastai ac ystadau tirfeddiannol?
Fe’ch gwahoddir yn gynnes i ddiwrnod cymunedol ym Mhrifysgol Bangor i ddarganfod mwy am waith Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.
Croeso i bawb! Galwch heibio ar y diwrnod. Edrychwn ymlaen at eich gweld! Yn dilyn hyn ceir Darlith Flynyddol Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor 2024 gan Yr Athro Terence Dooley am 5.30yh.
- Dewch i gwrdd ag aelodau tîm Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru
- Dysgwch am waith a gweithgareddau canolfan ymchwil prifysgol
- Trafodwch brojectau parhaus gyda'n hymchwilwyr doethurol
- Dysgwch am archifau Cymreig
- Arddangosfeydd pop-yp
- Gweithgareddau i oedolion a phlant
- Rhannwch a thrafodwch eich gwybodaeth a'ch syniadau eich hun
- Darganfyddwch sut y gallwch ymgysylltu â’n gwaith a’i gefnogi