Yn y byd rhyng-gysylltiedig sydd ohoni, mae deall dynameg cyfrannu at gymdeithas yn hollbwysig. Bydd y ddarlith hon yn ymchwilio i brofiadau personol o Gymru a Nigeria, gan archwilio agweddau ar ddysgu er mwyn cyfrannu’n effeithiol at gymdeithas. Gan dynnu ar gyd-destunau unigryw’r ddwy wlad, bydd y ddarlith hon yn cynnig dadansoddiad cymharol, gan amlygu gwersi gwerthfawr a heriau cyffredin.
Bydd y ddarlith yn dechrau drwy archwilio’r cysyniad o gyfrannu at gymdeithas a’i arwyddocâd wrth feithrin cymunedau cynhwysol a chynaliadwy. Bydd yn archwilio sut mae unigolion a chymunedau yng Nghymru a Nigeria yn llywio eu rolau a’u cyfrifoldebau tuag at welliant cymdeithasol, gan ystyried ffactorau diwylliannol ac economaidd-gymdeithasol.
Y safbwyntiau sy'n deillio o’r hyn rwyf wedi ei gyflawni'n addysgol a’m gwaith elusennol yw'r fframwaith a ddefnyddir i ddehongli gwerthoedd dinasyddiaeth, ymgysylltu cymunedol, a chyfrifoldeb cymdeithasol yn y ddarlith hon. Mae'r gwerthoedd hyn yn magu dulliau arloesol, megis rhaglenni dysgu gwasanaethol, addysg ddinesig, a mentrau llawr gwlad sy'n grymuso unigolion i gymryd rhan weithredol wrth lunio eu gwahanol gymdeithasau. Mae hyn wedi'i ddangos yn llwyddiannus yng Nghymru a Nigeria.
Yn ogystal, bydd y ddarlith yn mynd i’r afael â phwysigrwydd cydweithio a chyfnewid rhwng Cymru a Nigeria wrth hyrwyddo dysgu ar y cyd a meithrin gallu. Mae'n amlygu modelau partneriaeth llwyddiannus, gan ddangos sut y gall deialog a chydweithredu traws-ddiwylliannol arwain at ddatblygiad a newid cymdeithasol sy'n cael effaith.
Bydd y ddarlith yn archwilio rôl arwain a llywodraethu wrth hwyluso amgylcheddau ffafriol ar gyfer cyfraniad cymdeithasol, yn ogystal â’r heriau a’r cyfleoedd a gafwyd wrth hyrwyddo diwylliant o wirfoddoli a dinasyddiaeth weithredol.
Trwy gydol y ddarlith, bydd y mynychwyr yn cael eu hannog i adfyfyrio ar eu rolau eu hunain fel dinasyddion byd-eang ac fel asiantau dros newid. Trwy ddeall y dulliau a’r profiadau amrywiol o gyfrannu at gymdeithas, bydd cyfranogwyr yn cael dealltwriaeth werthfawr ac ysbrydoliaeth i feithrin effaith gymdeithasol gadarnhaol o fewn eu cymunedau eu hunain, gan fynd y tu hwnt i ffiniau daearyddol.
I gloi, bydd y ddarlith yn tanlinellu pa mor bwysig yw dysgu ac addasu’n barhaus wrth lywio cymhlethdodau cyfraniad cymdeithasol. Mae’n pwysleisio’r angen am ddulliau cynhwysol a chyfranogol sy’n defnyddio doethineb a chreadigrwydd cyfunol unigolion a chymunedau ledled y byd, gyda’r nod o adeiladu dyfodol mwy teg a chynaliadwy i bawb.
Gwyddonydd cadwraeth ac addysgwr a aned yn Nigeria yw Dr Salamatu Jidda-Fada. Bu’n gymrawd ymchwil yn y Ganolfan Cadwraeth ar Sail Tystiolaeth rhwng 2016 a 2018, ac ar hyn o bryd mae’n ymchwilydd gwadd yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor. Mae Salamatu’n dal i fyw ym Mangor, ac mae hi’n gweithio fel ymgynghorydd cadwraeth yn hyrwyddo Cymru wyrddach ac ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith cymunedau lleiafrifoedd ethnig a'r gymdeithas ehangach yng Nghymru. Oherwydd ei gwaith fel sylfaenydd Cymdeithas Gogledd Cymru Affrica, mae Salamatu wedi cyfrannu at Grŵp Cynghorol Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) Llywodraeth Cymru ac mae hi’n aelod ac yn Is-gadeirydd Dysgu Oedolion Cymru. Mae hi hefyd yn aelod ymgynghorol o’r RSPB Cymru a hi yw’r person du cyntaf i gael ei hethol yn gynghorydd ar Gyngor Dinas Bangor.
Derbyniodd Dr Salamatu J. Fadda Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor am Wasanaeth i Addysg yn 2023.
Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg.