Dulliau arloesol o ddysgu Hanes Cymru
Gweithdy wedi ei ariannu gan y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol
Nod y gweithdy hwn yw dod âg athrawon Prifysgol o bob rhan o Gymru, a thu hwnt, sy’n dysgu Hanes Cymru at ei gilydd i ystyried a hyrwyddo agweddau ymarfer addysgu.
Bydd y gweithdy’n cynnwys cyflwyniadau ar ddulliau addysgu Hanes Cymru, gan ganolbwyntio ar Gymru a’r byd ehangach, yn ogystal â phynciau ymylol wrth ddysgu Hanes Cymru, gan gynnwys cysylltiadau Cymru â themâu gwladychiaeth a imperialaeth, a hanesion LHDTC+ Cymru. Bydd y cyflwyniadau yn fan cychwyn ar gyfer trafod a rhwydweithio, i archwilio maes addysgu Hanes Cymru, ac yn gyfle i rannu dulliau ac enghreifftiau o ymarfer addysgu creadigol.
Bydd y gweithdy o ddiddordeb i’r rhai sy’n dysgu, neu sydd â diddordeb mewn dysgu Hanes ar draws Addysg Uwch, Addysg Bellach, ac Addysg Uwchradd. Efallai bydd y gweithdy hefyd o ddiddordeb i athrawon Hanes yr Alban ac Iwerddon, gan dynnu sylw at arloesiadau wrth ddysgu hanes y pedair gwlad y tu hwnt i’r cyd-destun Prydeinig.
Cofrestru:
I gofrestru ar gyfer y gweithdy hwn, anfonwch e-bost at l.a.rees@bangor.ac.uk, gan nodi unrhyw ofynion dietegol, cyn dydd Mercher 16 Ebrill 2025.
Ffî: Am ddim