Dysgu Daearyddol Cymraeg Cynnar Dydd
Prif siaradwr: Dr Euryn Roberts (Darlithydd mewn Hanes yr Oesoedd Canol a Chymru)
Cyn bod ymdrechion graffig i roi siâp i Gymru ar ffurf mapiau, roedd yna restrau topograffig a thraethodau disgrifiadol a geisiai wneud synnwyr o ranbarthau a ffiniau’r wlad. Lluniwyd y testunau byr hyn, a ysgrifennwyd mewn Cymraeg Canol, Lladin a Saesneg, ac yn bennaf ar ffurf rhestrau o gantrefi, o ddechrau’r drydedd ganrif ar ddeg ymlaen o leiaf, ac maent wedi goroesi mewn dros 30 o lawysgrifau yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg i’r ddeunawfed ganrif. Er gwaethaf eu pwysigrwydd fel tystiolaeth ar gyfer dysg ddaearyddol yng Nghymru’r oesoedd canol, hyd yma ni chyhoeddwyd unrhyw astudiaeth helaeth o’u ffurf, eu cyd-destun testunol na’u pwrpas. Ceisio unioni'r esgeulustod yw amcan y papur hwn.