Fy ngwlad:
Decorative

Economeg Iechyd Cymhwysol ar gyfer Ymarfer ac Ymchwil Iechyd y Cyhoedd Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME)

Trosolwg

Gan adeiladu ar 20 mlynedd o’n profiad mewn ymchwil ac addysgu economeg iechyd i ymarferwyr iechyd y cyhoedd a’r rhai sy’n gwneud ymchwil ym maes iechyd y cyhoedd, rydym yn cynnig y cwrs byr ar-lein rhad ac am ddim deuddydd hwn sy’n arddangos ein portffolio ymchwil yn y Grŵp Ymchwil Economeg Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol (PHERG) yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME). Trwy gyflwyniadau wedi’u recordio ac ystafelloedd ymneilltuo byw gyda chi, y cyfranogwyr, a’n cyfadran ymchwilwyr yn PHERG CHEME, byddwn yn gofyn ac yn trafod ar y cyd:

  • Pa heriau ychwanegol y mae cymhwyso dulliau gwerthuso economaidd i fentrau iechyd y cyhoedd ac atal o fewn a thu allan i systemau gofal iechyd traddodiadol yn eu hachosi a sut gallwn fynd i'r afael â hwy?
  • Pa ddulliau ydym ni, fel economegwyr iechyd, yn eu defnyddio (amrywio ein portffolio) i fynd i'r afael â'r heriau hyn ac ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth o gost-effeithiolrwydd cymharol a gwerth cymdeithasol ymyriadau iechyd y cyhoedd ac atal ar draws sectorau ac ar draws cwrs bywyd?
  • Sut y gellir talu am ymyriadau o'r fath yn y dyfodol a sut mae'r dulliau hyn yn berthnasol i ymagweddau polisi holl gyffredinol at gynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd?

Mae'r cwrs byr hwn yn cyd-fynd â'r gwerslyfr: Edwards, R. T., & McIntosh, E. (gol.). (2019). Applied health economics for public health practice and research. Gwasg Prifysgol Rhydychen.
 

Manteision mynychu

Mae'r Cwrs Byr hwn wedi'i achredu gan Faculty of Public Health. Bydd modd i'r sawl sy'n mynychu'r cwrs dderbyn Tystysgrif Cwblhau ar ôl cwblhau'r deuddydd yn llwyddiannus.  Bydd y dystysgrif yn tysiolaethu 10 awr o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).

 

Ar ddiwedd y cwrs byr hwn bydd cynrychiolwyr:

  • wedi ennill gwerthfawrogiad o gysyniadau, dulliau a chymhwysiad economeg iechyd i iechyd y cyhoedd.
  • yn gallu arfarnu'n feirniadol werthusiad economaidd cyhoeddedig o ymyriad iechyd cyhoeddus a theimlo'n hyderus wrth siarad am elw posibl ar fuddsoddiad o raglenni iechyd cyhoeddus yn y GIG a lleoliadau eraill megis ysgolion a gweithleoedd.
  • gyda gwerthfawrogiad o sut mae economeg iechyd angen amrywiaeth er mwyn cwrdd â'r heriau a gyflwynir gan werthuso ymyriadau iechyd y cyhoedd ac atal ar draws llawer o sectorau gwahanol, gan gysylltu â nodau polisi holl gyffredinol cynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd.

Cost y cwrs: Am ddim

Decorative

Arweinydd y Cwrs Professor Rhiannon Tudor Edwards

Yr Athro Rhiannon Tudor Edward

Cyfarwyddwr sefydlu ymchwil economeg iechyd ym Mhrifysgol Bangor. Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor.

Mewn dadansoddiad byd-eang o lyfryddiaeth mewn economeg iechyd (1975-2022), rhestrwyd Rhiannon ymhlith yr awduron pwysicaf ym maes economeg iechyd. Roedd hi ymhlith y pum awdur mwyaf cydweithredol, gyda Phrifysgol Bangor yn un o’r 10 sefydliad mwyaf cydweithredol ym maes economeg iechyd. Gweler: Barbu, L. Global trends in the scientific research of the health economics: a bibliometric analysis from 1975 to 2022. Health Econ Rev 13, 31 (2023).