Trosolwg
Mae’r gweithdy hwn yn cael ei arwain gan yr Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant
Mae’r gweithdy yn rhan o’n rhaglen addysgu ôl-raddedig ym maes iechyd ataliol, iechyd y boblogaeth ac arweinyddiaeth. yn benodol, mae’r gweithdy hwn yn gysylltiediad a’r modiwl: ILA-4907 Ecwiti Iechyd a Hawliau Dynol
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Saesneg.
Lleoliad
Ar-lein
Iaith cyflwyno’r cwrs
Saeseng
Hyd Y'r Digwyddiad
2.5 Awr (9:30am i 12:00pm)
Beth mae dysgwyr wedi dweud am y digwyddiad hwn yn y gorffennol?
-
Roedd y cyflwyniadau'n werthfawr iawn a da oedd clywed am y gwahanol ddulliau/strategaethau
- Sesiwn wych
- Diddorol edrych ar Anghydraddoldebau Iechyd yn eu cyd-destun
Budd o fynychu
Bydd y gweithdy’n ymdrin ag egwyddorion ac arferion cyflawni tegwch iechyd, gan ddefnyddio enghreifftiau byd go iawn o Gymru a phedwar ban byd. Rhoddir arweiniad ymarferol i’r cyfranogwyr ynglŷn â sut i gymhwyso’r wybodaeth hon yn eu gwaith eu hunain. Bydd y gweithdai’n cynnwys amrywiaeth o siaradwyr gwadd o’r Brifysgol a’r bwrdd iechyd lleol, yn ogystal ag o sefydliadau fel Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Tiwtor
Tracey O’Neill
Mae gan Tracey O'Neill gefndir mewn atal ac ymchwil iechyd y cyhoedd a ddechreuwyd gan ei MSc mewn Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd ym Mhrifysgol Bangor yn 2006. Mae diddordebau ymchwil Tracey ym maes anghydraddoldebau iechyd a phenderfynyddion cymdeithasol iechyd, ac mae Tracey yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd. Ar ôl sawl blwyddyn o weithio fel ymchwilydd ar lawer o wahanol brojectau iechyd y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig ac Awstralia, dechreuodd Tracey weithio fel darlithydd ar ôl cwblhau ei Thystysgrif Addysg Uwch i Raddedigion (PGCertHE) yn 2013. Daeth yn Gymrawd yr Awdurdod Addysg Uwch yn 2015.
Dull Cofrestru
Cyswllt: ahepw@bangor.ac.uk
Lleoliad: ar-lein (Zoom)
Archebwch nawr/cofrestrwch: https://gck.fm/lzpun