EGNI (M-Sparc) - Digwyddiad Contractwyr
Mae Prifysgol Bangor ar hyn o bryd yn cwblhau achos busnes i ofyn am gyllid gan Fargen Twf y Gogledd i gyflawni ‘Egni’, sef datblygiad deulawr carbon isel/di-garbon newydd ar safle MSparc yn Gaerwen, Ynys Môn.
Trosolwg o’r Project
Mae Prifysgol Bangor ar hyn o bryd yn cwblhau achos busnes i ofyn am gyllid gan Fargen Twf y Gogledd i gyflawni ‘Egni’, sef datblygiad deulawr carbon isel/di-garbon newydd ar safle MSparc yn Gaerwen, Ynys Môn.
Bydd Egni yn darparu tua 1,000m2 o ofod deori i fusnesau newydd a ofod ar gyfer cydweithrediadau ymchwil (cyfanswm maint yr adeilad fydd tua 1,727m2) a chynhigir hefyd gefnogaeth i ddatblygu busnes. Bydd y datblygiad yn creu swyddfeydd, gweithdai a labordai ychwanegol ynghyd â gofod hyfforddi a chylchdroi, a derbynfa.
Er mwyn manteisio ar botensial y gofod newydd, bydd ymyriadau wedi eu targedu yn cael eu darparu i’r tenantiaid, a chymorth busnes i dyfu'r sector carbon isel yng ngogledd Cymru. Bydd yn meithrin cydweithio ac yn meithrin trawsffrwythloni syniadau rhwng y byd academaidd, diwydiant, ymchwilwyr a pheirianwyr i roi Prifysgol Bangor, M-SParc a rhanbarth Gogledd Cymru ar flaen y gad o ran arloesi yn y Deyrnas Unedig.
Bydd y project yn darparu 40 lle parcio ychwanegol i ychwanegu at y ddarpariaeth bresennol a chaiff cyfran o'r safle ger yr adeilad newydd ei dirlunio. Mae is-orsaf eisoes ar y safle a fydd yn bwydo’r adeilad newydd. Bydd y datrysiad draenio’n cael ei ddatblygu ymhellach yn y cam nesaf. Bydd angen cymeradwyo'r cynnig draenio drwy'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy (SAB), a bydd angen bodloni amod cynllunio trwy’r drefn materion a gadwyd yn ôl. Bydd mwy o fioamrywiaeth a thirlunio hefyd yn cael eu darparu.
Digwyddiad Contractwyr
Hoffai Prifysgol Bangor, M-SParc a phartneriaid y project wahodd contractwyr â diddordeb i ymweld â’r safle yn M-SParc, Gaerwen i drafod y cynlluniau a gofynion y broses dendro.
Bydd yn ofynnol i gontractwyr ystyried opsiynau lleihau carbon a bioamrywiaeth fel rhan o’u cyflwyniadau tendro, yn ogystal â chael cais i gynnig cyfraniadau gwerth cymdeithasol i’r project drwy fframwaith Themâu, Canlyniadau a Mesurau. Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i drafod y gofynion hyn.
Os hoffech ddod i’r Digwyddiad Contractwyr, llenwch y ffurflen ar-lein a’i dychwelyd at Olivia Cahill, Gweinyddwr Caffael cyn 18 Gorffennaf 2024. Dim ond i ganfod nifer tebygol y cwmnïau fydd yn dod y defnyddir y wybodaeth hon.
Amserlen Caffael Arfaethedig
Mae'r amserlen gaffael fras ar gyfer y gwaith adnewyddu wedi'i chynnwys isod.
Tasg | Dyddiad |
---|---|
Cyhoeddi Hysbysiad y Contract ar Sell2Wales | 05 Awst 2024 |
Dyddiad cau ar gyfer derbyn tendrau drwy eTenderwales | 27 Medi 2024 am hanner dydd |
Gwerthusiad o dendrau a chymeradwyaeth PB/Bargen Twf y Gogledd | 08 Tachwedd 2024 |
Dyfarnu Contract (yn amodol ar gymeradwyo cyllid) | 22 Tachwedd 2024 |
Cytuno PCSA | 06 Rhagfyr 2024 |
Adroddiadau
Os ydych angen copi o'r adroddiadau, cysylltwch â Olivia Cahill.