Egwyddorion cyfweld ansoddol: dadansoddi data (In-person session)
Bydd y sesiwn yn ystyried dulliau a ddefnyddir yn eang i ddadansoddi data o gyfweliadau ansoddol. Un nod yw rhoi hyfforddiant ymarferol ynglŷn â datblygu dadansoddiad ansoddol o ddata o'r fath (er enghraifft, nodi themâu. Ail nod y sesiwn yw ystyried sut y gall yr ymchwilydd ansoddol sicrhau bod y dadansoddiad neu’r 'disgrifiad' yn un 'digonol', h.y. llwyddodd i gyfleu safbwynt goddrychol y rhai yr ymchwilir iddynt yn gywir. Bydd yn canolbwyntio'n bennaf ar ddulliau lled-strwythuredig a thrylwyr o gyfweld ac mae wedi'i anelu at ymchwilwyr ôl-radd sy'n bwriadu cynnal cyfweliadau ansoddol a'r rhai sydd â diddordeb datblygu sgiliau cyfweld ansoddol.