'Energised Welsh communities: making connections between place and Community Renewable Energy'
Llefydd Newid Hinsawdd ('PloCC')
Sioned Williams
Mae’r cyflwyniad yn trafod canfyddiadau astudiaeth PhD sy’n canolbwyntio ar adnabod beth yw rôl ac ystyr cymuned ac ymlyniad wrth le i gymunedau Cymreig o fewn cyd-destun ynni adnewyddadwy cymunedol, yn y projectau hyn sy’n aml yn seiliedig ar le. Roedd y gwaith yn edrych ar bedair astudiaeth achos a chonsortiwm yng ngogledd a de Cymru. Mae’r astudiaeth yn manylu ar sefyllfa gyd-destunol y projectau ynni adnewyddadwy ar draws yr astudiaethau achos, gan nodi’r berthynas rhwng cymunedau, eu tirwedd ac ynni adnewyddadwy. Archwiliodd yr astudiaeth amrywiaeth o safbwyntiau ynglŷn ag ystyron, profiadau a’r hyn sy’n cynrychioli 'cymuned' a 'lle', gan gynnwys gwahanol fathau o ymlyniad wrth le. Yn bwysig ddigon, roedd y canfyddiadau’n amlygu sut roedd ymlyniad wrth le nid yn unig yn cynnig cyd-destun ar gyfer ymgysylltiad cymunedau â phrojectau ynni adnewyddadwy cymunedol ond hefyd yn llunio’r ymgysylltiad hwnnw. Roedd hyn yn cynnwys sut y defnyddiwyd adnoddau naturiol dros amser mewn cymunedau ôl-ddiwydiannol.