Gweithdy CELT: Enterprise Education and opportunities to enhance teaching and curriculum design – an interactive workshop.
Siaradwr: Dr Beth Edwards
Rhennir y sesiwn yn ddwy ran. Bydd y rhan gyntaf yn rhoi cyflwyniad i staff i addysg fenter, gan gynnwys edrych ar derminoleg, dealltwriaeth allweddol, yr adnoddau sydd ar gael ac enghreifftiau o brojectau mentergarwch sydd wedi cael cefnogaeth gan y Gronfa Datblygu Menter Staff. Darperir dolenni at adnoddau fyddai’n gallu gwella addysgu a gwaith cynllunio cwricwlwm, er enghraifft, fframwaith Entrecomp a'r pecyn cymorth ETC.
Yna, defnyddir fframwaith sgiliau Entrecomp fel offeryn i gefnogi gweithgaredd grwpiau bach yn defnyddio Lego. Bydd yr elfen ryngweithiol hon yn annog staff i adfyfyrio ar y cymwyseddau a geir yn fframwaith Entrecomp a meddwl am weithgaredd neu ddatblygiad y gallant ei wneud o fewn eu hymarfer eu hunain.
Iaith y Sesiwn: Saesneg