Gweithdy CELT: Managing diversity in the classroom, using learner personas
Siaradwr: Ada Emetu, Darlithydd mewn Cyfrifeg a Busnes, Prifysgol BPP
Mae ystafelloedd dosbarth modern yn mynd yn fwyfwy amrywiol o ran cefndiroedd cymdeithasol-ddiwylliannol, academaidd ac economaidd. Mae'r gwahaniaethau hynny’n aml yn dylanwadu ar sut mae myfyrwyr yn canfod ac yn prosesu gwybodaeth. Felly, mae'n hanfodol cydnabod hynodrwydd pob myfyriwr wrth ddylunio a chynllunio profiadau addysgu a dysgu. Mae ymagwedd gynhwysol at addysg yn golygu darparu ar gyfer anghenion amrywiol y myfyrwyr er mwyn sicrhau mynediad a chyfleoedd cyfartal i bob dysgwr.
Yn y cyflwyniad, byddaf yn archwilio cysyniadau personâu dysgwyr a Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL), gan gynnig awgrymiadau ymarferol i hwyluso gweithgareddau dosbarth effeithiol.
Iaith y Sesiwn: Saesneg