Gweithdy DPP CELT Beyond: Stress testing: AI, Academic Integrity, and Assessment: Challenges and Potential Solutions a collaborative workshop
Siaradwr: Dr James Wood
Mae twf cyflym Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol ym myd addysg dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi creu cyfleoedd a heriau wrth addysgu, dysgu ac asesu.
Mae adroddiadau diweddar (Guardian, 2025; Financial Times, 2025) yn tynnu sylw at y cynnydd sylweddol yn y defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial, gan nodi bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i gwblhau eu gwaith academaidd erbyn hyn. O ganlyniad i hyn, mae’n rhaid i addysgwr symud ymlaen o brosesau “profi straen” wrth asesu, a meddwl am ffyrdd newydd moesol ac effeithlon o ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ym myd addysg. Mae’r maes datblygiadol hwn yn codi cwestiynau allweddol:
- Sut y gallwn arwain y ffordd a dangos i fyfyrwyr sut i ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial mewn ffordd sydd yn gwella eu profiad nhw o ddysgu ac yn eu gwneud yn fwy parod at fyd gwaith.
- Sut y gallwn ddylunio asesiadau dilys a chynhwysol sy’n cyd-fynd â chanlyniadau dysgu.
- Sut mae meithrin diwylliant o ymddiriedaeth, uniondeb a chyfrifoldeb. Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn trafod y materion dybryd hyn gan dynnu sylw at ymchwil i brosesau asesu addysg uwch, a chanllawiau newydd gan Brifysgol Bangor, heb anghofio syniadau’r cyfranogwyr.
Gyda’n gilydd, byddwn yn edrych ar strategaethau er mwyn ailgynllunio asesiadau mewn ffordd sydd yn cynnal uniondeb academaidd ac yn cefnogi dysgwyr amrywiol mewn byd sy’n cael ei ddylanwadu gan Ddeallusrwydd Artiffisial.
Cyn y sesiwn, rydym yn eich gwahodd i rannu’r canlynol yn ddienw:
- Sut rydych chi wedi defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn llwyddiannus fel rhan o’r cwricwlwm neu asesiadau.
- Unrhyw bryderon neu gwestiynau yr hoffech chi eu trafod
Efallai y byddwn yn defnyddio eich cyfraniadau i wella’r gefnogaeth rydym yn ei roi i staff wrth ymdrin â Deallusrwydd Artiffisial ac asesu. Mae’n bosibl y bydd eich cyfraniadau hefyd yn cael eu defnyddio mewn adroddiadau, cynadleddau a chyhoeddiadau mewnol. Pe bai’n well gennych chi i’ch data beidio â chael ei gynnwys yna nodwch hynny trwy ychwanegu * at eich cyfraniad.