Gwibdaith – Llandudno
Mae ein taith Campws Byw cyntaf y flwyddyn yma! Byddwn yn mynd â chi i Landudno, sef tref glan môr Fictoraidd sydd dim ond 30 munud o Fangor. Dyma gyfle gwych i bori trwy siopau’r stryd fawr, mynd am dro ar hyd y promenâd, dringo’r Gogarth i gael golygfeydd godidog ar draws yr ardal, neu fwynhau danteithion blasus!