Iaith Troseddau Rhyw: Cydbwysedd o ran yr argraff a geir o Hygrededd Dioddefwyr
Discover the Human Mind: Psychology Webinar Series
Mae’r gweminar hwn yn archwilio sut mae iaith yn dylanwadu ar yr argraff a geir o ddioddefwyr mewn achosion o droseddau rhyw. Gan dynnu ar seicoleg fforensig a seicoieithyddiaeth, rydym yn archwilio disgwyliadau cymdeithas o ymddygiad "delfrydol" dioddefwr a'r rhybudd rhag i ddioddefwyr ddefnyddio iaith ffigurol mewn tystiolaeth.
Trwy ganfyddiadau ymchwil, byddwn yn trafod sut y gall dewisiadau iaith effeithio ar hygrededd dioddefwyr, pa mor emosiynol ydyn nhw, ac empathi ymysg pobl broffesiynol a lleyg. Drwy ddeall y ddeinameg yma, ceir cipolwg ar y berthynas rhwng ieithyddiaeth a chyfiawnder, gan amlygu'r heriau y mae dioddefwyr yn eu hwynebu wrth sôn am eu trawma.
Ymwadiad Mae'r gweminar hwn yn ymdrin â phynciau sy'n ymwneud â throseddau rhywiol a thrawma. Gall rhywfaint o gynnwys beri gofid i rai cynulleidfaoedd. Ystyriwch eich lles cyn mynychu.
Gellir gweld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Drwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru hon rydych yn cytuno â thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch caniatâd yn ôl neu newid eich dewisiadau caniatâd.
Cyflwynir y seminar hwn drwy gyfrwng y Saesneg.
Siaradwr
Dr Shreyasi Desai
Cafodd Shreyasi 'Cece' Desai ei BSc mewn Bioleg Fforensig a Seicoleg ym Mhrifysgol Abertay, lle clywodd ddarlithydd am y tro cyntaf yn dweud "doedd neb yn mynd i'w chredu pe siaradai felly". Parodd hyn iddi gwestiynu sut y gall geiriau ddylanwadu ar yr hyn y mae gwrandäwr yn ei feddwl o'u siaradwr hyd yn oed os gwyddys yn gyffredinol fod y cyd-destun yn negyddol.
Dros y blynyddoedd nesaf, cwblhaodd ei thraethawd ymchwil baglor a doethuriaeth ar effaith gormodiaith ar y canfyddiad o dystiolaeth gan ddioddefwyr troseddau rhywiol.
Mae ei diddordebau ymchwil yn ymwneud â’r ffin rhwng seicoieithyddiaeth a seicoleg fforensig; yn benodol mewn pragmateg fforensig. Mae ganddi ddiddordeb deall sut y gellir defnyddio iaith ffigurol yn arbennig mewn cyd-destunau fforensig megis mewn datganiadau sylfaenol, a thystiolaeth mewn llys a sut mae'n effeithio ar yr argraff a geir o’r siaradwr yn y pen draw.
Mae ei gwaith wedi canolbwyntio’n bennaf ar ormodiaith a’i le fel arf ar gyfer mynegiant emosiynol ymhlith dioddefwyr troseddau rhywiol. Mae ei hymchwil presennol yn canolbwyntio ar dagu diangheuol mewn trais domestig a rhywiol a gweithrediad cyfreithiol y gyfraith NFS newydd.