Imagining a brighter future for social care in Wales: what’s innovation have to do with it?
Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithas
Gweithdy rhyngweithiol yn y cnawd fydd y sesiwn tair awr hon yn archwilio barn pobl sy’n derbyn gofal cymdeithasol a'u gweledigaeth o ran dyfodol gofal cymdeithasol. Dewiswch fynychu'r digwyddiad sydd agosaf atoch gan y cynhelir yr un gweithdy yn y ddau leoliad. Ni fydd y naill weithdy na'r llall yn hybrid. Os bydd cyfraddau Covid yn codi i lefelau anniogel, bydd y gweithdai yn cael eu symud ar-lein.
Mae’r digwyddiad hwn yn archwilio canfyddiadau project ymchwil, sy’n cael ei redeg ar y cyd gan Y Lab ym Mhrifysgol Caerdydd a’r People Powered Results Team yn Nesta. Roedd y project yn edrych ar y gefnogaeth i arloesi mewn gofal cymdeithasol.
Yn ystod y sesiwn byddwn yn: archwilio’n fyr ganfyddiadau’r ymchwil, mynd am dro drwy rai o’r allbynnau gweledol a gynhyrchwyd gan yr ymchwil, rhyngweithio â straeon a barn pobl am yr hyn sydd angen ei newid, a mireinio’r 10 Gweledigaeth ar gyfer Dyfodol Gofal Cymdeithasol yng Nghymru y mae cyfranogwyr yr ymchwil wedi ein hysbrydoli i’w llunio.
Gwyddom nad yw ein systemau gofal cymdeithasol yn gweithio, ond beth allwn ni ei wneud i newid hynny a chreu Cymru iachach? Os ydych chi'n angerddol am ofal cymdeithasol - dewch i rannu, rhwydweithio a chyfnewid er mwyn cael dweud eich dweud am yr hyn a ddylai ac a allai ddigwydd. Mae croeso i bawb - yn enwedig y rhai sydd ddim yn gwybod beth yw ystyr y gair 'arloesi'. Mae’r digwyddiad hwn wedi’i dargedu at bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y rheini sydd â phrofiad o fyw gyda’n system gofal cymdeithasol, a’r teuluoedd (neu rwydweithiau cymorth) sy’n ei llywio.
Alexis Palá, Cysylltai Ymchwil yn Y Lab, Prifysgol Caerdydd
Stephanie Griffith, Rheolwr Arloesi Gofal Cymdeithasol Cymru