Incomplete Foreclosures
Mae Duc Duy (Louis) Nguyen yn Athro mewn Cyllid yn Ysgol Fusnes Prifysgol Durham. Cyn ymuno â Durham yn 2021, bu’n Uwch Ddarlithydd Cyllid yng Ngholeg y Brenin Llundain ac yn Ddarlithydd Bancio a Chyllid ym Mhrifysgol St Andrews. Mae gan Louis radd BSc (Anrh) mewn Cyfrifiadura o Brifysgol Genedlaethol Singapore, MSc (Rhagoriaeth) mewn Cyfrifeg, Cyllid a Rheolaeth o Brifysgol Bryste, a PhD mewn Cyllid o Brifysgol Caeredin. Cafodd ei ymchwil ei gydnabod gan Wobr Gyhoeddi David Hume yn 2015. Ymhlith diddordebau ymchwil ac addysgu Louis mae cyllid corfforaethol empirig, bancio, a chyllid hinsawdd. Gwelwyd ei waith ymchwil yn y Review of Financial Studies, Management Science, Journal of Financial and Quantitative Analysis, Review of Finance, Review of Corporate Finance Studies, Journal of Money, Credit, and Banking, Journal of International Business Studies, a sawl cyfnodolyn blaenllaw arall. mewn cyllid a rheolaeth. Cafodd ei ymchwil sylw yn Forbes, Harvard Business Review, y BBC, y Boston Globe; ac fe'i hariannwyd gan yr Academi Brydeinig/Ymddiriedolaeth Leverhulme ac Ymddiriedolaeth Carnegie y Deyrnas Unedig. Mae Louis yn gwasanaethu fel Golygydd Cyswllt i'r European Journal of Finance ac mae'n aelod o Fwrdd Golygyddol y British Accounting Review. Mae Louis yn siaradwr rheolaidd mewn cynadleddau a chyfarfodydd rhyngwladol a drefnir gan fanciau canolog, llywodraethau, a sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys y Federal Reserve Banks of New York a St Louis.