IRISH LANDED ESTATES & THE GREAT IRISH FAMINE
Crynodeb
Yn ystod 'Newyn Mawr Iwerddon' yn y 1840au bu farw mwy na miliwn o bobl. Ymfudodd miliwn yn rhagor. Roedd landlordiaid yn berchen ar 95% o dir Iwerddon, ac yn aml yn cael eu beio am y dinistr a ddaeth yn sgil y ‘Newyn Mawr’. Ond sut effeithiodd y Newyn ar blastai Iwerddon eu hunain? Gan ddefnyddio sawl astudiaeth achos, mae’r sgwrs hon yn archwilio sut roedd y plasty a’i berchnogion yn gweithredu mewn cyfnod o newyn. Tra bod rhai yn cael eu cofio am eu caredigrwydd, roedd eraill yn cael eu ceryddu am eu diffyg gweithredu. Cyfrannodd hyn, yn ei dro, at ddarlun ystrydebol y plasty Gwyddelig a ddaeth i'r amlwg tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn ddiweddarach.
Bywgraffiad y Siaradwr
Mae Dr Ciarán Reilly yn hanesydd ym maes Hanes Iwerddon yn y 19eg a’r 20fed ganrif yn yr Adran Hanes, Prifysgol Maynooth, a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Canolfan Astudio Tai Hanesyddol ac Ystadau Iwerddon. Mae’n awdur nifer o lyfrau ar Newyn Mawr Iwerddon, gan gynnwys The Irish Land Agent, 1830-1860; Strokestown and the Great Famine, a John Plunket Joly and the Great Famine in King’s County. Mae hefyd yn gyd-olygydd Dublin and the Great Famine.