Lansiad Llyfr: Social Policy for Welfare Practice in Wales
Ymunwch â ni wrth i ni lansio'r drydedd gyfrol o 'Social Policy for Welfare Practice in Wales', wedi ei olygu gan Dr Hefin Gwilym a'r Athro Charlotte Williams o'r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor.
Mae'n bleser cael Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, a'r Athro Iwan Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor yn ymuno â ni ar gyfer y lansiad yma.
Edrycha 'Social Policy for Welfare Practice in Wales', sydd wedi ei gyhoeddi gan Venture Press, dros ugain mlynedd o'r Cynulliad, erbyn hyn y Senedd, gan adlewyrchu ar lwyddiannau a heriau polisi cymdeithasol dros y ddau ddegawd diwethaf, a chraffu effaith datganoli ar ymarfer ym maes llesiant yn un o wledydd datganoledig y DU.
Mae'n ystyried meysydd traddodiadol polisi cymdeithasol megis iechyd a thlodi yn ogystal â meysydd sydd o ddiddordeb cynyddol, gan gynnwys yr amgylchedd a hawliau dynol ac yn cynnwys adnoddau gwerthfawr ar gyfer ymarferwyr llesiant cymdeithasol wrth iddynt hyfforddi a gwneud eu gwaith mewn cyd-destun Cymreig.
Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, yr Athro Sally Holland, am y llyfr:
“Mae'n hanfodol bod ein myfyrwyr a'n hymarferwyr yng Nghymru yn deall ac yn rhoi ar waith y nodau polisi, y gwerthoedd a'r sail gyfreithiol sy'n wahanol yn y cyd-destun Cymru. Mae'r gyfrol newydd hynod bwysig hwn yn crynhoi ac yn dadansoddi'r newidiadau eang sydd, gyda'i gilydd, wedi adeiladu agwedd benodol Cymru tuag at les cymdeithasol. Rwy’n hoff iawn o’r sylw i bwysigrwydd hawliau dynol plant ac oedolion mewn gwaith cymdeithasol a lles cymdeithasol. Mae nodau blaengar gan y weinyddiaeth ddatganoledig, ond mae'r gyfrol hon yn ffynhonnell bwysig i'r rheiny sy'n dymuno dadansoddi pa mor llwyddiannus y maent wedi gwneud gwahaniaethau canfyddadwy i fywydau ein dinasyddion.”
Gellir archebu'r llyfr fan hyn: BASW - Country specific: Wales