Make it - Neo Generalism, Opensource and Innovation
Mae’r sgwrs yn rhan o Ymgysylltu
Darlith agored gan Jo Hinchliffe
Ymunwch â ni am drafodaeth ddifyr ar ddatblygiadau ac arloesi ym maes ffynhonnell agored, lle mae diwylliant agored yn helpu i sbarduno projectau arloesol.
Mae’r sgwrs yn rhan o Ymgysylltu — darlithoedd ym meysydd peirianneg, cyfrifiadura a dylunio
Croeso i bawb.
Cyfres o ddarlithoedd am amrywiol bynciau sy’n ymwneud â chyfrifiadura, peirianneg a dylunio, a drefnir gan Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Prifysgol Bangor yw’r Seminarau ‘Ymgysylltu’.
Mae arloesi’n deillio’n aml o ddiwylliant agored a ffynhonnell agored. Er hynny, mae methodolegau perchnogol yn cadw golwg ar ddatblygiad technegol ac weithiau'n eu rhwystro. O gyfuno hyn â lledaeniad systemau rheoli eiddo deallusol hen ffasiwn a thrwyddedu, mae hynny’n wrthgyferbyniad llwyr i arloesi. Yn y sgwrs egnïol hon, bydd Jo yn dewis themâu newydd o'i waith amrywiol gan ddangos ac adrodd am brojectau technegol diddorol gyda phwyslais ar sut mae'r methodolegau datblygu ffynhonnell agored, diwylliant a thrwyddedu agored yn helpu i greu gwaith unigryw na ellir bob amser ei ailadrodd gyda dulliau perchnogol. Mae'n bosib y bydd hefyd yn dod â roced fawr i bwyntio at bethau.
Mae Jo Hinchliffe yn wneuthurwr llawrydd, datblygwr cymunedol, awdur ac awdur technegol. Gyda phwyslais ar galedwedd a meddalwedd ffynhonnell agored, mae gan Jo restr o gleientiaid sy'n cynnwys Raspberry Pi, FreeCAD, Tindie, a llawer mwy. Mae Jo wedi bod yn gyfrannwr craidd i'r Libre Space Foundation, sefydliad datganoledig sydd wedi creu a darparu lloerennau ffynhonnell agored i orbit daear isel trwy deithiau ISS a SpaceX Falcon. Fel gwneuthurwr, mae Jo wedi creu amrywiaeth anferthol o brojectau, o rocedi pŵer uchel ffynhonnell agored mawr, i wneud watsys, adeiladu cychod, llwyfannau roboteg ffynhonnell agored; mae'r rhestr bron yn ddiddiwedd. Jo yw awdur “FreeCAD for Makers” a “Design an RP2040 Board in KiCad”.