Cyfres o ddarlithoedd am amrywiol bynciau sy’n ymwneud â chyfrifiadura, peirianneg a dylunio, a drefnir gan Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Prifysgol Bangor yw’r Seminarau ‘Ymgysylltu’.
Mae deunyddiau priodol yn dechnolegau galluogi allweddol ar gyfer bron popeth. Mewn llawer o achosion, megis teithio yn y gofod ac adweithyddion ymasiad niwclear, nid oes gennym ddeunyddiau a all wrthsefyll yr amgylcheddau llym hynny. Mae’r atebion gennym i’r cwestiynau gwyddonol. Rydym yn deall sut mae pethau’n gweithio ond allwn ni ddim adeiladu'r peiriannau. Mewn achosion eraill, megis awyrennau a thyrbinau gorsafoedd ynni, gallai deunyddiau gwell eu gwneud yn fwy effeithlol o ran tanwydd, a lleihau’r costau a’r effaith amgylcheddol.
Felly, mae’n hanfodol dylunio a datblygu deunyddiau newydd yn barhaus. Bellach mae dulliau uwchgyfrifiadura’n gallu efelychu’r deunyddiau, ac mae’n bosibl cyflymu'r broses o ddatblygu ryseitiau deunyddiau yn ddirfawr, neu Beirianneg Deunyddiau Cyfrifiadurol Integredig (ICME). Bydd y sgwrs yn cyflwyno dulliau o ddylunio deunyddiau o’r cyfnod cyn dyfeisio aloion efydd i ddylunio duroedd datblygedig a cherameg ffwythiannol heddiw.
Mae Dr Tessa Davey yn Ddarllenydd UKAEA mewn Modelu Deunyddiau yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear yn Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Prifysgol Bangor. Ymunodd â Phrifysgol Bangor yn 2023 o Brifysgol Tohoku yn Japan, lle bu’n gweithio am dros chwe blynedd yn y Sefydliad Ymchwil Torasgwrn a Dibynadwyedd yn Ysgol Beirianneg y Graddedigion. Cyn hynny, bu’n gweithio yng Ngholeg Imperial Llundain yn yr Adran Ddeunyddiau, ac yna hefyd yr enillodd ei PhD. Brodor o Aberystwyth yw hi, lle cafodd addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg.
Nod ei hymchwil yw darganfod a datblygu deunyddiau newydd a fydd yn cael eu defnyddio yn yr amgylchiadau mwyaf eithafol, fel adweithyddion niwclear neu ar ymylon cerbydau hypersonig. Bu’n gweithio'n helaeth yn y gorffennol gyda cherameg tymheredd uchel iawn, uwch-aloi-sylfaen nicel, ac aloion uwch ar gyfer tanwydd niwclear sy'n gallu gwrthsefyll damweiniau. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn dylunio defnyddiau cyfrifiannol gan ddefnyddio technegau sy’n defnyddio data megis gwybodeg defnyddiau a dysgu peirianyddol a datblygodd ddulliau yn y gorffennol i arwain ymchwiliadau diagramau cyfnod yn effeithlon gan ddefnyddio dysgu dilyniannol a meintioli ansicrwydd. Mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn ymchwil addysgol sy’n seiliedig ar ddisgyblaeth ynghylch mynediad teg at addysg, ac mae’n frwd dros gydraddoldeb, tegwch, a chynrychiolaeth ym maes STEM.