Caiff Diwrnod Rhyngwladol y Merched (8 Mawrth) ei ddathlu bob blwyddyn ledled y byd i nodi llwyddiannau merched, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o anghydraddoldebau parhaus rhwng y rhywiau. Mae Prifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â Chwaraeon Merched Cymru, yn ymuno â dathliadau 2025 gyda digwyddiad cyffrous yn mynd i’r afael ag Arweinwyr Benywaidd mewn Chwaraeon.
Bydd y digwyddiad yn cael ei arwain gan Laura McAllister Laura McAllister, Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymru yng Nghanolfan Llywodraethu Cymru, Prifysgol Caerdydd. Bu’r Athro McAllister yn gadeirydd ar Chwaraeon Cymru rhwng 2010 a mis Mawrth 2016. Roedd yn gyfnod hynod lwyddiannus i chwaraeon elît yng Nghymru, gan gynnwys ennill y nifer fwyaf erioed o fedalau yng Ngemau’r Gymanwlad 2014, Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012, a Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio 2016. Bu’n aelod o fwrdd UK Sport yn ystod yr un cyfnod. Ar hyn o bryd, mae’n Gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn Ddirprwy Gadeirydd ar Bwyllgor Pêl-droed Merched UEFA (ers 2017), ac yn Gadeirydd Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru. Fis Ebrill 2023, cafodd ei hethol yn is-lywydd UEFA.
Bydd panel o ferched o’r byd chwaraeon ac o yrfaoedd amrywiol yn ymuno â Laura:
Kate Hannon - Aelod o Fwrdd Chwaraeon Merched Cymru a Chyfarwyddwr Fearless Women. Mae Kate yn gweithio ym maes marchnata chwaraeon a chysylltiadau cyhoeddus chwaraeon ers 15 mlynedd. Mae Kate yn gyn-ymddiriedolwr i Ymddiriedolaeth Chwaraeon y Merched, ac yn gyd-sylfaenydd y Women's Sport Collective. Mae'n frwd dros greu cydraddoldeb mewn cymdeithas, yn enwedig ym myd chwaraeon y merched. Fel peiriannydd cymwys, dechreuodd Kate ei gyrfa gyda chwmnïau telathrebu gan gynnwys Ericsson, Bell South, France Telecom a British Telecom. Mae hi'n mwynhau datrys problemau a chyflawni pethau.
Hannah Powell - Athletwraig yw Hannah Powell. Bu’n cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, mae’n Hyfforddwr Codi Pwysau, ac yn Swyddog Cefnogi Busnes gyda Chodi Pwysau Cymru. Mae’n gyn-godwr pwysau dros Brydain Fawr a Chymru. Mae’n byw yng Ngogledd Cymru. Mae Hannah yn Codi Pwysau ers 2004, a bu’n rhan o dimau ieuenctid/iau/uwch Prydain Fawr, yn ogystal â chystadlu mewn dwy o Gemau’r Gymanwlad dros Gymru. Bu Hannah hefyd yn gweithio fel Swyddog Cefnogi Busnes i Godi Pwysau Cymru am 7 mlynedd, yn ogystal â hyfforddi codwyr pwysau i Gymru ar wahanol lefelau cystadlu, ac yn fwy diweddar bu’n cynnig dosbarth Codi Pwysau i’r Merched yn ei chlwb yng Nghaergybi (Hawfc).
Ms Tricia Sterling - Prif Hyfforddwr Pêl-rwyd Cymru a Phennaeth Ysgol Addysg, Prifysgol Bangor. Dechreuodd Tricia ar ei gyrfa mewn Addysg Uwchradd ar ôl cymhwyso fel Athrawes Addysg Gorfforol a Gwyddoniaeth. Gwirfoddolodd fel hyfforddwr i Glwb Hoci Glannau Dyfrdwy ac arweiniodd Hoci Merched Ysgol Swydd Gaer dan 16 oed. Ar ôl symud i UDA, daeth yn Brif Hyfforddwr Hoci Maes ym Mhrifysgol Slippery Rock ac arweiniodd y rhaglen Olympic Futures yn Pennsylvania. Ar ôl dychwelyd i'r Deyrnas Unedig yn 2002, daeth yn Uwch Ddarlithydd mewn Addysg Gorfforol a Hyfforddi ac yn ddiweddarach bu’n arwain Hyfforddiant Athrawon Addysg Gorfforol ym Mhrifysgol John Moore yn Lerpwl. Bu hefyd yn hyfforddi pêl-rwyd i’r iau yng Nghlwb Pêl-rwyd Caer. Yn 2025, daeth Tricia’n Athro Cysylltiol a Phennaeth Hyfforddiant Athrawon ym Mhrifysgol Caer, a bu’n arwain timau i rowndiau terfynol cenedlaethol. Roedd hi'n ymwneud â thîm iau Manchester Thunder. Yn 2021, fe’i penodwyd yn Ddeon Gweithredol ym Mhrifysgol Newman Birmingham a bu’n hyfforddi timau Prifysgol Warwick ac Uwch Gynghrair Glannau Dyfrdwy.
Dr Sophie Harrison - Darlithydd mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon, Prifysgol Bangor yw Dr Sophie Harrison. Yn ddiweddar sefydlodd Sophie Grŵp Cyfnewid Gwybodaeth Iechyd a Pherfformiad y Merched sy’n dod ag ymchwilwyr ledled yr Ysgol Seicoleg a Gwyddorau Chwaraeon ynghyd gyda’r nod o gefnogi genethod, merched, a phobl a aseiniwyd yn ferched adeg eu geni trwy gyfnewid ymchwil a gwybodaeth. Mae Sophie’n frwd dros gau’r bwlch data rhwng y rhywiau yn y gwyddorau chwaraeon ac mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar gefnogi athletwyr benywaidd, yn enwedig trwy astudio dylanwad y gylchred fislifol mewn chwaraeon ac ymarfer corff, a thrwy geisio lleihau’r baich a achosir gan symptomau sy’n gysylltiedig â’r gylchred fislifol. mewn bywyd bob dydd ac wrth gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff.
Bydd y panel yn adfyfyrio ar y cynnydd sydd wedi’i wneud tuag at gydraddoldeb rhyw yn y byd chwaraeon, y teithiau a’r heriau sydd o’n blaenau o hyd, a’r rôl hollbwysig y mae merched yn ei chwarae yn hyn o beth.
Mwy o wybodaeth i ddilyn.
Panel




