Fy ngwlad:

Lisa Boas (Bangor University)

A headshot of Lisa Boas

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Lisa Boas (Prifysgol Bangor)

'Effaith Mozart' o gymharu ag 'Effaith Minimalaidd': sut y gall gwrando ar ‘Music for 18 Musicians’ (1976) gan Steve Reich arwain at well perfformiad wrth gyflawni tasgau Gweithredu Goruchwyliol

Ym 1993 cyhoeddodd Frances Rauscher ganfyddiadau ei hymchwil i wrando ar gerddoriaeth a gwella galluoedd gofodol (Rauscher 1993, 1994). Cafodd ei chanfyddiadau eu galw yn 'Effaith Mozart' gan gynhyrchu diddordeb yng ngallu cerddoriaeth i wella swyddogaethau gwybyddol. Fodd bynnag, taflwyd anfri ar arbrofion Rauscher oherwydd diffygion methodolegol, gyda Glenn E. Schellenberg (2012) yn awgrymu y gellid gwella cyneddfau gwybyddol, mewn gwirionedd, trwy addasu hwyliau a chynnwrf (felly, trwy addasu modd a rhythm / tempo), yn hytrach nag achosi hynny trwy 'Effaith Mozart' neu oherwydd cymhlethdod yr ysgogiad, fel yr honnwyd yn wreiddiol gan Rauscher. 

Yn unol â disgrifiadau ffenomenolegol o gyflyrau ymwybyddiaeth myfyrgar a ffocysiedig aelodau’r gynulleidfa a pherfformwyr ‘Music for 18 Musicians’, rydym yn gofyn a allai gwrando ar gerddoriaeth finimalaidd yn y modd mwyaf, gydag ailadrodd cyflym, effeithio’n gadarnhaol ar hwyliau a lefelau cynnwrf gwrandawyr, gan arwain at gynnydd mewn ffocws a chanolbwyntio ac o ganlyniad arwain at well gallu mewn profion gweithredu goruchwyliol. Gall canfyddiadau cadarnhaol hefyd gadarnhau sail seicolegol i rai o drosiadau cymwys minimaliaeth a amlinellwyd gan Rebecca Leydon (2002). Gall hyn fod â goblygiadau ar gyfer defnydd therapiwtig o gerddoriaeth Minimalaidd. 

Mae’r papur hwn yn rhan o fy ymchwil PhD, sy’n ymchwilio i effeithiau cerddoriaeth finimalaidd ar yr ymennydd mewn project amlddisgyblaethol. Mae fy ymchwil yn cyfuno cerddoleg gyda Niwrowyddoniaeth Wybyddol, gan ymchwilio i effeithiau seicolegol posibl gwrando ar gerddoriaeth finimalaidd a/neu ei pherfformio. Bydd y papur hwn yn ystyried arbrofion EEG/ERP sydd ar y gweill fel rhan o’r astudiaeth hon, a fydd yn profi effeithiau gwrando ar ‘Music for 18 Musicians’ (1976) gan Steve Reich o gymharu â Sonata ar gyfer Dau Biano gan Mozart yn D Fwyaf (K448), cyn cynnal treial ERP i fesur gweithredu goruchwyliol rhwng cerddorion a phobl nad ydynt yn gerddorion (gan ddefnyddio patrwm Mynd/Peidio Mynd). Bydd y gwaith o gaffael data EEG/ERP yn dechrau ym mis Mawrth 2024; o ganlyniad bydd y papur hwn yn amlinellu rhai o'r damcaniaethau a'r canlyniadau a ragwelir.

______
Anastasia Zaponidou (Prifysgol Bangor): 

Chwarae’r Sielo Wysg Eu Hochr: Ymgorffori Arfer Perfformio Hanesyddol Rhyweddedig

Mae astudio arferion perfformio hanesyddol wedi cael effaith sylweddol ar sut mae sielyddion yn dehongli cerddoriaeth y gorffennol, gan ganiatáu i berfformwyr geisio cynrychioliad mwy cywir o weithiau cerddorol o'r fath wrth berfformio. Ac eto mae llawer o’r ymchwil sy’n archwilio ymarfer perfformio’r sielo’n hanesyddol yn canolbwyntio ar brofiad dynion, ac nid yw ysgolheictod presennol ar arferion rhyweddedig, megis, yn benodol, y dechneg o chwarae’r sielo wysg eu hochr, yn llwyddo i asesu’r arferion hynny o safbwynt ymarferol. Bydd y papur hwn yn ymchwilio i ffynonellau modern a hanesyddol er mwyn diffinio'r dechneg o chwarae wysg eu hochr ac amrywiadau ar hynny. Gan dynnu ar ddamcaniaethau ymgorfforeg a ffenomenoleg fel teclynnau yn yr astudiaeth ymchwil hon i arferion perfformio, byddaf yn dangos fy nealltwriaeth ginesthetig fy hun o'r dechneg o chwarae wysg fy ochr. Wrth ddefnyddio’r adnoddau a’r prosesau cyfunol hyn, byddaf yn nodi rhai pryderon ymarferol a rhai anfanteision posibl i’r dull hwn o chwarae a allai fod wedi effeithio ar sielyddion benywaidd rhwng canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif.