Yn ôl Llywodraeth Cymru hon yw’r 'ddegawd dyngedfennol' i fynd i'r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio mai’r rhagamcan yw y bydd newid hinsawdd yn cynyddu amlder a dwyster cyfnodau o sychder, llifogydd afon ac arfordirol a chyfnodau o wres mawr - a disgwylir i hynny wanhau gwytnwch ecosystemau ymhellach. Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn cynghori bod trawsnewid tir yn un o’r pedwar maes allweddol lle gall Cymru gymryd camau breision i gyrraedd sero net.
Mae'r tirweddau yr ydym yn eu hadnabod, y lleoedd yr ydym yn byw ynddynt yn newid. Nid yw Eryri yn eithriad. Ond sut ddylem wynebu’r ffaith neu deimlo amdano? A ydym yn barod am newid?
Mae 'Newid Eryri' yn arddangosfa ryngweithiol sy’n taflu goleuni ar y newidiadau amrywiol y mae Eryri eisoes wedi bod trwyddynt, o’r prosesau cudd sy’n gynhenid i siapio ein dealltwriaeth o’i thirwedd, i’r trawsnewidiadau ffisegol mwy amlwg a wnaed yn hanesyddol gan Stad y Penrhyn.
Trwy gelf, sain, mapiau a deunyddiau archif eraill, bydd ymwelwyr yn darganfod sut mae Eryri a’n hymdeimlad o’r dirwedd wedi newid dros amser.
Y prif gwestiwn sy'n tywys yr arddangosfa chwilfrydig hon yw hyn:
Gall ddysgu bod tirweddau’n esblygu, yn ffisegol ond hefyd o ran sut y cânt eu hamgyffred, leihau dymuniadau i gadw’r dirwedd bresennol yn sefydlog ac yn ddigyfnewid?
Ewch i wefan y prosiect Project Website: reframing.wales i ddarganfod rhagor.
Amseroedd agor
Arddangosfa ar gau 10 a 11 Awst.
Dydd Llun 12 Awst 10am-12pm a 5-8pm
Dydd Mawrth 13 Awst 10am-12pm a 5-8pm
Dydd Mercher 14 Awst 10am-12pm an 5-8pm
Dydd Iau 15 Awst 10am-12pm a 5-8pm
Dydd Gwener 16 Awst 10am-12pm a 5-8pm
Dydd Sadwrn 17 Awstt 10am-2pm a 5-8pm
Dydd Sul 18 Awst 2-5pm* a 5-7pm (*Digwyddiad Arbennig gweler isod)
Digwyddiad Arbennig:
Ar ddydd Sul, Awst 18fed bydd cyfres o sgyrsiau byr, deunydd casgliad archif ehangach yn cael ei rannu, yn ogystal â the a choffi rhwng 2-5pm. Bydd Gwilym Bowen Rhys hefyd yn perfformio caneuon gwerin am dirwedd a chymunedau Gogledd Cymru.
Mae'r arddangosfa yma'n rhan o broject ymchwil doethurol o'r enw 'Ail-fframio Cymru' a ariennir gan Gwmni'r Brethynwyr. Fe’i cefnogir gan Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Canolfan Defnydd Tir Cynaliadwy Syr William Roberts, Yr Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio a Pontio.