O Avant Garde i Afongad – Digwydd
Mae Dr Sarah Pogoda a Grŵp Celf Cymreig NWK (Neue Walisische Kunst - Celf Gymreig Newydd) yn eich gwahodd i ymuno ag archwiliad o’r Avant Garde artistig yng Ngogledd Cymru, y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Dysgwch sut mae artistiaid yng Nghymru wedi datblygu strategaethau gwrthdroadol i wella'r profiad o gelfyddyd a bywyd. Rhowch gynnig ar fod yn rhan o 'ddigwyddiad' Avant Garde wrth i ni, gyda'n gilydd, berfformio awtopsi o Y Bwi Aur er mwyn ymchwilio i Farwolaeth yr Avant Garde, a gyhoeddwyd unwaith yn enwog gan Peter Buerger. Archwiliwch y ffyrdd y gellir adfywio egni’r Avant Garde i’n helpu ar y daith i’n hanturiaethau artistig ein hunain. Bydd y digwyddiad yn gwbl hygyrch.
Digwyddiad ddim yn addas i rai dan 16 oed.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Hyb Gŵyl Prifysgol Bangor.
Gwybodaeth hygyrchedd
Mae nodweddion hygyrchedd penodol y lleoliad hwn yn cynnwys: parcio i ddeiliaid bathodynnau glas, lifftiau, mynediad â ramp drwy'r adeilad, toiledau hygyrch a chyfleusterau newid cewynnau. Cysylltwch â'r trefnydd ynglŷn â gofynion mynediad penodol.