Elain Rhys Jones (Prifysgol Bangor)
Erbyn heddiw, adwaenir Grace Williams (1906–1977) fel un o ffigyrau amlycaf a mwyaf dylanwadol yn hanes cerddoriaeth Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Er hyn, cred rhai na chafodd llawer o’i chyfansoddiadau sylw haeddiannol yn ystod ei hoes. Cofir amdani’n bennaf am ei gweithiau cerddorfaol, megis y Fantasia on Welsh Nursery Tunes (1940), Sea Sketches (1944) a Penillion (1955). Yn ogystal â bod y gyfansoddwraig gyntaf o Brydain i gyfansoddi sgôr ar gyfer ffilm lawn, sef Blue Scar (1949), mae’n werth nodi hefyd mai Grace Williams oedd y gyfansoddwraig gyntaf yng Nghymru i gyfansoddi opera. Trodd y gyfansoddwraig at waith y nofelydd a’r dychanwr Ffrengig Guy de Maupassant (1850–1893) ar gyfer testun ‘The Parlour’ (1966), gan ddefnyddio ei stori fer ‘En Famille’ fel sail ar gyfer ysgrifennu ei libreto ei hun ar gyfer yr opera. Bwriad yr ymchwil yw cynnig gwerthusiad llawn o’r opera i lenwi rhywfaint ar y bwlch sy’n bodoli am fywyd a gwaith y gyfansoddwraig yn absenoldeb ymdriniaeth â’r gwaith pwysig hwn. Bydd y papur hwn yn cwestiynu pam nad yw ‘The Parlour’ yn cael ei lwyfannu erbyn heddiw.