Bydd yr Athro Lucy Kuncheva (Athro mewn Cyfrifiadureg) yn cyflwyno ei gwaith ar adnabod patrymau. Mae Adnabod Patrymau, Dysgu Peirianyddol, Rhwydweithiau Niwral, Gweledigaeth Gyfrifiadurol a Deallusrwydd Artiffisial yn agweddau gwahanol ond cydgysylltiedig o'r un hen ymgais i ddeall a dynwared natur ddynol. Bydd y sgwrs hon yn rhoi cip i ni o’r cysyniad o adnabod patrymau. Rhoddir sylw i ddatblygiadau'r gorffennol a'r presennol gan ddefnyddio arddangosiadau ac enghreifftiau. Yn olaf, trafodir sut y gellid defnyddio adnabod patrymau ym maes ymddygiad anifeiliaid a bydd sôn hefyd am ein hymdrechion i ddefnyddio dulliau adnabod patrymau i adnabod anifeiliaid unigol mewn clipiau fideo.
Athro Cyfrifiadureg (wedi lled-ymddeol). Addysg Brifysgol: Uwch-sefydliad Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol, Sofia, Bwlgaria 1982. PhD o Academi Gwyddorau Bwlgaria, 1987. Ymunodd ag Ysgol Mathemateg Prifysgol Bangor yn 1997. Diddordeb mewn adnabod patrymau a dysgu peirianyddol Mae hi wedi cael ei gwahodd i draddodi darlithoedd a seminarau yn y Deyrnas Unedig a thramor (Awstria, yr Eidal, Sbaen, Ffrainc, yr Iseldiroedd, Tsieina, Hong Kong, UDA, Canada, ac ati). Mae wedi cyhoeddi dau fonograff a thros 150 o bapurau.
Croeso i bawb!