Mae’r glaniadau D-day 80 mlynedd yn ôl yn aml yn cael eu hystyried fel dechrau eigioneg ffisegol fodern yma yn y Deyrnas Unedig. Ar yr adeg honno, daethpwyd â grŵp bach o ffisegwyr ynghyd (Grŵp W) i geisio deall sut mae tonnau'n cael eu cynhyrchu ac yn teithio i ffwrdd o stormydd. Byddai'r wybodaeth hon yn galluogi rhagfynegi amodau tonnau i gynorthwyo cerbydau amffibaidd i lanio. Aelod allweddol o’r grŵp hwnnw oedd Jack Darbyshire, un o raddedigion ffiseg Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, o Flaenau Ffestiniog. Dychwelodd Jack i'r brifysgol yn ddiweddarach i sefydlu'r Adran Eigioneg Ffisegol newydd a ffurfiwyd ym 1964. Yn y cyflwyniad hwn, byddwn yn trafod effaith ymchwil eigioneg ffisegol Prifysgol Bangor ar wella ein dealltwriaeth o'r ffordd y mae'r cefnfor yn gweithio.
Tom yw Cadeirydd sefydledig Eigioneg Ffisegol. Mae'n eigionegydd arsylwadol gyda diddordeb ymchwil brwd mewn tyrfedd a chymysgu yn yr amgylchedd morol. Mae ei waith wedi cynnwys datblygu technegau newydd i fesur tyrfedd dyfrol, a defnyddio mesuriadau tyrfedd i nodi, datrys a meintioli prosesau ffisegol allweddol sy'n ysgogi cymysgu yn y cefnfor. Mae ei ymchwil presennol yn canolbwyntio ar yr effaith mae’r llanw a’r gwynt yn ei gael ar ia môr sy’n toddi yn yr Arctig, a’r prosesau sy’n pennu dyfnder haen gymysg arwyneb y cefnfor.
Mae Tom yn Gymrawd o'r Gymdeithas Feteoregol Frenhinol, ac yn Uwch Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch.