'Projects and plans: postgraduates present'
Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Darlithoedd 2024
Pwnc: Yn cyhoeddi: Cartref y Chwedlau/Home is Where the Legends Start
Gwahoddir chi i ymuno â ni ar 11 o Fehefin 2024 am 5 yh i lansio ein harddangosfa newydd Cartref y Chwedlau/Home is Where the Legends Start. Yn ogystal â lansio'r arddangosfa newydd, bydd gwaith ymchwil myfyrwyr graddedig presenol yn cael ei gyflwyno ar y noson.
Digwyddiad Ar-Lein
ID y Cyfarfod: 999 5848 8269
Rhif ymuno: 646385
Project gan y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yw 'Cartref y Chwedlau'.
Caiff y project ei ariannu gan Gronfa Prifysgol Bangor, menter yr Is-Ganghellor, sy'n cefnogi meysydd o flaenoriaeth strategol i'r brifysgol ar 140 mlwyddiant Prifysgol Bangor (1884).
Nodau’r project yw amlygu rôl ganolog Astudiaethau Cymreig, Celtaidd, ac Arthuraidd yn lleol yn ardal Prifysgol Bangor, ac yn y broses o sefydlu llyfrgell y brifysgol yn nechrau ei hanes, a hybu ysgolheictod, addysgu ac ymchwil pellach yn y meysydd hynny.
Mae gwreiddiau'r project yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, ac yn fodd hefyd i ddathlu casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint.
I gyd-daro â’r arddangosfa ar-lein bydd y Ganolfan yn cynnal cyfres o Ddarlithoedd Arthuraidd yn 2024, fel rhan o ddathliad 140 Prifysgol Bangor. Bydd hefyd raglen addysgol i’r ysgolion cynradd lleol ar gyfer y Cwricwlwm Creadigol Newydd yng Nghymru, o dan arweiniad yr Athro Radulescu gyda Gillian Brownson, storïwraig leol ac artist perfformiadol, a Dr Maria Hayes, artist yn y celfyddydau cain.