Prosesu Cyfochrog yn Python (In-person)
Prosesu Cyfochrog yn Python Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu sut mae ysgrifennu, proffilio a rhedeg rhaglenni Python cyfochrog.
Mae gan y rhan fwyaf o gyfrifiaduron unedau prosesu lluosog heddiw. Yn ddiofyn, fydd Python ond yn defnyddio un prosesydd ar gyfer cyfrifiant penodol. Fodd bynnag, mae Python yn cynnig nifer o lyfrgelloedd toreithiog i alluogi rhaglennu cyfochrog. Yn aml gall rhaglenni sy'n gallu cyrchu a defnyddio unedau prosesu lluosog gyflymu cyfrifiant penodol o ffactor sy'n agos at gyfanswm y proseswyr sydd ar gael - boed ar beiriant sengl neu uwchgyfrifiadur.
Mi wnaiff y sgiliau a gewch chi ar y cwrs hwn eich galluogi i broffilio a chyfuno unrhyw godau python a sicrhau y bydd yn rhedeg ar beiriant pen desg neu glwstwr uwchgyfrifiadura.
Rhagofyniad: Egwyddorion ac Ymarfer Rhaglennu gan ddefnyddio Python