Récits des vivants / More-than-human narratives : y cyfarwyddwr ffilm Maud Alpi mewn sgwrs ag Armelle Blin-Rolland
”The animals arrive by night. They intuit. They resist. A young man leads them to their deaths before dawn. His dog discovers a terrifying world that seems certain never to end.”
Mae'r seminar hon yn rhan o'r gyfres ‘Récits des vivants / More-than-human narratives’, lle mae artistiaid ac ymgyrchwyr yn y Ffrainc gyfoes yn trafod y ffyrdd y mae eu gwaith yn ymgysylltu â chwestiynau amgylcheddol a chwestiynau sy’n ymwneud ag anifeiliaid, ac yn adfyfyrio ar sut y gellir defnyddio naratif i gwestiynu anthropoganoledd ac eithriadoldeb dynol, tuag at gyfiawnder amgylcheddol a chynaliadwyedd ystyrlon. Maud Alpi yw cyfarwyddwr arobryn y ffilmiau byr Le fils de la sorcière (2004), Nice (2009), Drakkar (2015), a'r ffilm hir Gorge Cœur Ventre/Still Life (2016), a ffilmiwyd mewn lladd-dy gweithredol. Dyma’r ffilm y bydd y seminar hon yn canolbwyntio arno. Yn ystod y seminar hon bydd Maud Alpi yn siarad am y cyd-destun y gwnaeth hi’r ffilm ynddo, sut yr esblygodd y sgript a’r syniadau cychwynnol mewn cysylltiad â’r anifeiliaid anddynol sydd wrth wraidd y ffilm, a’r materion gwleidyddol, esthetig a moesegol sy’n codi wrth fynd ati i greu a chyfleu naratifau mwy-na-dynol.