Ymunwch â ni am ddigwyddiad diddorol yn myfyrio ar Ramadan a’i arwyddocâd ysbrydol, diwinyddol ac i’n hiechyd. Bydd y diwrnod yn cynnwys siaradwyr nodedig a fydd yn ymchwilio i wahanol agweddau ar Ramadan ac ymprydio ar draws gwahanol draddodiadau ffydd.
- Maryam Awawdeh, Aelod o Dîm Caplaniaeth Bangor:
"Cadw Ramadan": Bydd y sgwrs hon yn archwilio profiadau gwahanol y rhai sy'n cadw Ramadan. Er bod ymprydio yn agwedd allweddol, mae Ramadan yn llawer mwy nag ymatal rhag bwyd a diod o wawr hyd fachlud haul. Mae byw yn y Gorllewin yn cyflwyno heriau unigryw - cydbwyso ymrwymiadau dyddiol (gydag addoliad ysbrydol), ymwneud â chymunedau a chynnal arferion 'normal'. Yn ogystal, nid yw pawb yn gallu ymprydio, ac ni ddylai Ramadan gael ei ddiffinio gan hynny yn unig. Bydd y sgwrs hon yn ymchwilio’n ddyfnach i arwyddocâd Ramadan (y tu hwnt i ymprydio), yn ogystal â thrafod sut y gall eraill arddel ysbryd Ramadan mewn llawer o ffyrdd ystyrlon.
- Farhaan Wali, Uwch Ddarlithydd mewn Crefydd:
Mae ymprydio yn arferiad a geir ar draws traddodiadau crefyddol, o Ramadan yn Islam i’r Grawys mewn Cristnogaeth, Yom Kippur mewn Iddewiaeth, ac Ekadashi mewn Hindŵaeth. Ond y tu hwnt i ymatal rhag bwyd, pa ystyron dyfnach sydd i ymprydio? Mae’r sgwrs hon yn archwilio sut mae ymprydio yn siapio hunaniaeth grefyddol, yn cryfhau undod cymdeithasol, ac yn cynnig trawsnewid personol ac ysbrydol. Mewn oes o brynu ac eisio boddhad ar unwaith, beth all y traddodiadau hyn eu dysgu i ni am hunanddisgyblaeth, gwytnwch, a byw’n foesegol? Ymunwch â ni am drafodaeth ddifyr ynghylch swyddogaeth ymprydio mewn ffydd a chymdeithas.
Ceir sesiwn holi ac ateb ar ôl y ddarlith. Anfonwch eich cwestiynau cyn 25 Ebrill llaw dwy ymateb i'r e-bost hwn.
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gael dealltwriaeth ddyfnach o Ramadan a goblygiadau ehangach ymprydio. Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur ac ymunwch â ni am drafodaeth ddifyr a diddorol!
Maryam Awawdeh and Farhaan Wali