Mae'n bleser gan y Ganolfan Ragoriaeth Y Prosesu Signalau Digidol (Canolfan DSP) yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg, gyhoeddi ei Seminar Prawf a Mesur blynyddol gyntaf ar ddydd Iau'r 2il o Dachwedd 2023, a drefnwyd mewn cydweithrediad â Keysight Technologies.
Ymunwch â ni i ddarganfod mwy am dechnegau profi a mesur ar gyfer systemau mesur digidol, amledd radio (RF) ac optegol. Bydd hefyd arddangosiadau mesur byw gan arbenigwyr Keysight, taith o amgylch labordai newydd y Ganolfan DSP, yn ogystal â gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael gyda Keysight i fyfyrwyr neu fel gyrfa
Cynhelir y seminar yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg yn Stryd y Deon. Bydd bwyd a lluniaeth am ddim trwy gydol y dydd.
Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, sy'n agored i holl fyfyrwyr, staff ac ymchwilwyr Peirianneg Electronig/Cyfrifiadureg israddedig ac ôl-raddedig. I sicrhau eich lle, cofrestrwch yma.
Cadwch lygad am fwy o ddiweddariadau ar ein tudalennau Twitter a Linkedin.