Sesiwn NVivo rhagarweiniol
Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyflwyniad byr i NVivo 12, pecyn cyfrifiadurol sy'n cynorthwyo dadansoddiad ansoddol. Mae'r pecyn cyfrifiadurol hwn yn offeryn sy'n cefnogi nifer o ddulliau dadansoddi data.
Byddwn yn archwilio'n fyr yr hyn a olygwn wrth godau a chodio cyn symud i NVivo. Er mwyn gallu cael y gorau o'r sesiwn hon, bydd angen i chi dreulio tua 40 munud ymlaen llaw i sicrhau eich bod chi'n gallu cyrchu NVivo a darllen rhai deunyddiau.
Nod y sesiwn yw rhoi trosolwg i chi o'r hyn y gellid defnyddio NVivo ar ei gyfer, archwiliad o'r prif nodweddion a swyddogaethau, a nifer o adnoddau.