Smarter spending for sustainable societies: a public procurement board game
Festival of Social Sciences
Mae cymdeithasau yn wynebu heriau cymhleth ac mae ein gwasanaethau cyhoeddus (gofal iechyd, cludiant, ynni, tai, rheoli gwastraff, plismona ac ati) dan bwysau dwys. Ni allwn ddatrys problemau nad ydym yn siarad amdanynt, felly dewch draw i dreulio’r noson yn chwarae gêm fwrdd newydd, sydd wedi’i dylunio i sbarduno sgyrsiau am wasanaethau cyhoeddus, dewisiadau gwariant cyhoeddus, a pholisïau ar gyfer adeiladu cymdeithasau ffyniannus, gwydn a chyfrifol. Mae'r gêm fwrdd yn cael ei chwarae mewn timau o 4, ond gallwch ddod fel grŵp mwy neu lai a chael eich paru â phobl eraill yn y fan a'r lle.
Dysgwch am yr ymchwil diweddaraf ar gaffael cyhoeddus sy'n digwydd ym Mhrifysgol Caerdydd gan Dr Oishee Kundu a Dr Jane Lynch, a dysgwch fwy am eich ardal leol a sut y caiff ei llywodraethu.
Oishee Kundu, Cysylltai Ymchwil Y Lab ym Mhrifysgol Caerdydd
Jane Lynch, Darllenydd mewn Caffael ym Mhrifysgol Caerdydd