The CPD Recognition Scheme: Bangor University’s direct route to HEA Fellowship
Siaradwr: Dr Laura Grange (Arweinydd Gwobrwyo a Chydnabod Addysgu a Dysgu)
Mae'r Brifysgol yn cynnig dau lwybr at Gymrodoriaeth yr AAU; sef y Dystysgrif Ôl-radd Addysgu mewn Addysg Uwch (PgCert THE), sef rhaglen hyfforddedig i staff ar ddechrau eu gyrfa sydd â llai na dwy flynedd o brofiad addysgu mewn addysg uwch, a Chynllun Cydnabod DPP achrededig Advance HE, sef llwybr uniongyrchol Prifysgol Bangor at Gymrodoriaeth yr AAU. Llwybr yw hwn ar gyfer unigolion sydd â 2-3 blynedd o brofiad mewn addysg uwch ac y mae eu gweithgareddau'n cyfrannu at addysgu a/neu gefnogi dysgu ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r cynllun hwn yn galluogi ymgeiswyr i achredu eu haddysgu yn unol â Fframwaith Safonau Proffesiynol 2023 (FfSP 2023), sy’n fframwaith a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer meincnodi llwyddiant o fewn addysgu a dysgu addysg uwch.
Bydd y gweithdy’n cynnwys rhagarweiniad er mwyn cyflwyno’r cynllun, categorïau cymrodoriaeth Advance HE, FfSP 2023, a’r broses ymgeisio. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau yn ail hanner y sesiwn.
Iaith y sesiwn: Saesneg
Nodyn: Yr un yw’r sesiwn hon â’r gweithdy a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2024.