The Duncan Tanner Memorial Seminar/ Seminar Goffa Duncan Tanner: Labour Country Redivivus: British Social Democracy and its Prospects, 1924-2024
Mae Daryl Leeworthy’n awdur ar nifer o lyfrau gan gynnwys Labour Country, Causes in Common: Welsh Women and the Struggle for Social Democracy, ac, yn fwyaf diweddar, Fury of Past Times, ei gofiant i’r nofelydd o’r Rhondda, Gwyn Thomas.
I ddynodi canmlwyddiant Llywodraeth Lafur gyntaf y DU yn 1924, bydd y sesiwn hon yn archwilio datblygiadau deallusol ac ymarferol y Blaid Lafur o wrthblaid i lywodraeth yn ystod y can mlynedd diwethaf. O wneud hyn, dadleua dros arwyddocâd a chysondeb democratiaeth gymdeithasol i bwrpas y blaid a’i hunaniaeth. I orffen, bydd yn adlewyrchu ar ambell i gymhariaeth wrth i ni symud at etholiad cyffredinol yn 2024.