Gellir datrys heriau'r Anthroposen o safbwynt technegol, felly pam nad ydym yn llwyddo i’w datrys a beth fydd rhaid i ni ei wneud? Bydd Mike Berners-Lee yn cloddio trwy haenau'r argyfwng lluosog i drafod yr elfennau hollbwysig i'r rhai sy'n ceisio sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Mike yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Small World Consulting Ltd. Mae'n ymgynghori, yn meddwl, yn ysgrifennu ac yn ymchwilio ym maes cynaliadwyedd ac ymatebion i broblemau'r unfed ganrif ar hugain. Ef yw awdur llyfrau clodwiw, gan gynnwys ‘There is No Planet B: A Handbook for the Make or Break Years’, a ‘How Bad Are Bananas? The carbon footprint of everything.’ Mae hefyd yn athro ym Mhrifysgol Caerhirfryn, lle mae ei ymchwil yn cynnwys modelu carbon cadwyn gyflenwi, systemau bwyd cynaliadwy ac effaith amgylcheddol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu. Mae wedi ymddangos ar y teledu a’r radio nifer o weithiau yn siarad am hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd a newid hinsawdd.