Trechu Tor Calon am Byth - Dosbarthiadau CPR gan y British Heart Foundation
Bydd y British Heart Foundation yn darparu hyfforddiant adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) i fyfyrwyr Prifysgol Bangor er mwyn rhoi'r hyder i chi gamu i'r adwy pan fydd o'r pwys mwyaf ac achub bywydau. Mae'r hyfforddiant am ddim ac yn para dim ond 30 munud, ond mae'n hanfodol cofrestru trwy anfon e-bost at campwsbyw@bangor.ac.uk