Mwy o Wybodaeth
Ymunwch â ni am daith ddifyr i dref fawreddog a hudolus Caernarfon. Yn ystod y dydd, cewch fynediad am ddim i grwydro’r castell, byddwch yn mynd ar daith gerdded o amgylch y dref gydag un o’n cyn fyfyrwyr, ac yna’n cael cinio hyfryd yn yr Anglesey Arms eiconig sy’n edrych dros y Fenai. Ceir cyfle wedyn i wrando ar dair sgwrs hynod ddiddorol o dan y canopi yng ngardd Palas Print, siop lyfrau orau Caernarfon, gyda thri o ddarlithwyr yr Ysgol. Daw’r daith i ben gyda'r hyn sy'n argoeli i fod yn ffordd wych o ddod i adnabod ein gilydd yn well, sef mynd i’r Hwylfan yng Nghaernarfon!