What to Conserve in a Rapidly Heating World?
Prif siaradwr: Mae Dr Charlie Gardner yn gadwraethwr, yn gyfathrebwr hinsawdd ac yn actifydd. Uwch-ddarlithydd cyswllt yn Sefydliad Cadwraeth ac Ecoleg Durrell (DICE, Prifysgol Caint)
Mae cadwraeth natur bob amser wedi bod yn ymdrech ar sail lleoliad i atal a gwrthdroi newid - rydym yn ceisio gwarchod ein bioamrywiaeth, ac yn ddelfrydol, ei hadfer i gyflwr dymunol y gorffennol. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod y ddaear yn cynhesu’n golygu bod newid yn anochel, ac yn gwneud y dull hwn yn anarferedig, felly mae'n rhaid i gadwraethwyr ailystyried yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni wrth i'r blaned gynhesu. Gan ddefnyddio dyfodol coedwigoedd Prydain fel arbrawf syniadaeth, awgrymaf y dylai cadwraethwyr geisio cynnal ecosystemau swyddogaethol yn hytrach na cheisio atal diflaniad rhywogaethau yn lleol, ac y bydd hyn yn gofyn am newid i’n dulliau nad ydynt yn ymyraethol. Bydd yn golygu edrych i'r dyfodol yn hytrach na'r gorffennol, nodi'r rhywogaethau a fydd yn ffynnu o dan amodau’r dyfodol, a hwyluso’r broses o’u sefydlu trwy gytrefu cynorthwyol.
Mae’r sgwrs bryfoclyd hon yn dod â natur, newid hinsawdd a daearyddiaeth ynghyd i archwilio sut ydym yn addasu i’n byd newidiol, a bydd o ddiddordeb i unrhyw un sydd â diddordeb yn lleoedd neu’r dyfodol