Cynnwys
Ers 140 o flynyddoedd, mae Prifysgol Bangor wedi bod yn rhan o ddinas Bangor. Mae'r digwyddiad hwn yn ddathliad o'r brifysgol a'r berthynas barhaus honno. Bydd y cyflwyniadau’n ymdrin â nifer o agweddau ar sefydlu’r brifysgol ac yn rhoi cyfle i fynychwyr drafod materion ymhellach.
Digwyddiad
Ar ôl sgwrs ragarweiniol, bydd staff yn trafod agweddau ar hanes prifysgol. Bydd y cyflwyniadau’n cynnwys:
- Bangor: Datblygiad Dinas cyn 1884
- Pwy oedd sylfaenwyr y Brifysgol?
- Prifysgol Fictoraidd: Helynt Violet Osborne
- Creu hanes: Twf Prifysgol Bangor ers 1884
Bydd te a choffi ar gael, a byddwn yn dechrau am 10am ac yn gorffen tua 3pm. Bydd toriad ar gyfer cinio.
Croeso i chi ymuno ar gyfer y diwrnod cyfan neu am ran o'r dydd yn unig.
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Aelodau diddordebus o’r gymuned, cymdeithasau hanesyddol, staff a myfyrwyr y Brifysgol.
Mae’r digwyddiad hwn yn ddelfrydol i’r rhai sydd â diddordeb mewn cael ymwybyddiaeth o orffennol y Brifysgol a Bangor fel dinas brifysgol.
Manteision o'r digwyddiad
- Gwybodaeth hanesyddol ehangach
- Cwrdd â phobl o'r un anian a chyfle i rhwydweithio
- Darganfod beth mae tîm hanes Prifysgol Bangor yn ei gynnig