Y Llechan: Nisha Ramayya
Mae cyfres Awduron Gwadd Y Llechan Prifysgol Bangor yn croesawu’r bardd Nisha Ramayya nos Iau 7 Mawrth am ddarlleniad a thrafodaeth am 6.30pm yng nghaffi’r Blue Sky, Stryd Fawr Bangor.
Magwyd Nisha Ramayya yn Glasgow ac mae bellach yn byw yn Llundain. Cyhoeddwyd ei chasgliad barddoniaeth States of the Body Produced by Love (2019) – “a modern mystical journey through love” – gan Ignota Books. Cyhoeddir ei hail gasgliad gan Granta yn 2024. Mae’r casgliad hwn, o’r enw Now Let’s Take a Listening Walk, yn mynd ar daith gerddorol trwy hanes, myth, a ffuglen wyddonol. Mae Nisha yn dysgu Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Queen Mary, Llundain.
Mae croeso mawr i bawb i’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn, a gefnogir gan Llenyddiaeth Cymru.