Y Llechan - Robert Minhinnick
Mae Y Llechan yn falch o groesawu Robert Minhinnick am ddarlleniad barddoniaeth a thrafodaeth.
Daw Robert Minhinnick o dde Cymru, ac mae’n fardd, yn nofelydd, yn awdur straeon byrion, yn ysgrifwr, yn gyfieithydd ac yn olygydd, sydd wedi ennill gwobrau am ei waith. Ac yntau’n amgylcheddwr cadarn, mae’n gyd-sylfaenydd Cyfeillion y Ddaear Cymru a’r elusen Cymru Gynaliadwy. Yn ddiweddar, mae wedi golygu Gorwelion / Shared Horizons, blodeugerdd fyd-eang am newid hinsawdd (Parthian).
Mae croeso i bawb yn y digwyddiad rhad ac am ddim hwn, a gefnogir gan Gronfa Gymunedol Prifysgol Bangor a Llenyddiaeth Cymru.